Bydd angen ichi feddwl am un neu fwy rôl arbennig yr hoffech i wirfoddolwyr eu gwneud. Mae angen i’r rhain fod yn wahanol i’r hyn yr ydych yn talu staff i’w wneud ar hyn o bryd ac yn ddeniadol i’w gwneud yn wirfoddol. Dylent helpu eich sefydliad i gyrraedd ei nodau penodol.
Gellir gwirfoddoli yn rheolaidd, yn achlysurol neu unwaith, gan unigolion neu gan grwpiau. Gall tasgau fod yn gyffredinol (y rheini y gallai unrhyw un eu gwneud â chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl) neu’n arbenigol iawn – gan ddarparu arbenigedd neu sgiliau arbennig y mae prinder ohonynt yn y sefydliad.
Mae’n bwysig ymgynghori â staff presennol am bosibiliadau cynnwys gwirfoddolwyr a meddwl yn greadigol am yr hyn y gallai gwirfoddolwyr ei wneud i wella gwaith eich sefydliad.