Mae rhai bobl yn gwybod yn union beth y mae arnynt eisiau ei wneud - yr oll mae arnynt ei angen yw rhif ffôn ac i ffwrdd â nhw. Ond i'r rhan fwyaf o bobl, gall y dewis eu dychryn.
Gall gofyn nifer o gwestiynau i chi'ch hun helpu i ddewis y maes. Er enghraifft:
Faint o amser sydd gen i a pha bryd wyf fi ar gael?Pa mor bell wyf fi'n barod i deithio ac ydy cael tâl am fy nghostau yn bwysig i mi?
Pa ddiddordebau a phrofiadau y gallaf eu cyfrannu at fy ngwaith gwirfoddol?
Ydw i'n hoffi gweithio un-i-un neu gyda grwpiau o bobl?
Oes gen i'r gallu i weithio gyda phobl ifanc problemus, pobl anabl neu bobl oedrannus, ac os nad oes, fyddwn i'n hoffi'r sialens o ddarganfod fy ngallu?
Oes yna faterion neu achosion penodol yr hoffwn eu helpu?
Mae'r safle gwe yn ffordd ddefnyddiol o weld beth yw'r posibiliadau. Fe'i lluniwyd o'r wybodaeth a ddarperir gan 22 o fiwros gwirfoddolwyr ar draws Cymru. Mudiadau gwirfoddol yw'r canolfannau gwirfoddolwyr a gallant roi gwybodaeth a chyngor ar wirfoddoli.
Ceir canolfan gwirfoddolwyr ym mhob awdurdod lleol a cheir deuddeg grp cefnogaeth cymunedol ym Mhowys. Bydd pob un yn cadw gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael yn yr ardal. Rhowch dro arni - ewch yn ôl i'r Dudalen Hafan, rhowch y cyrchwr ar y map o Gymru i weld enwau'r canolfannau gwirfoddolwyr yn goleuo.