*Cyfleoedd diweddaraf
*Sut y gall y canolfan helpu?
Mae gan y 22 canolfannau gwirfoddolwyr sy'n ffurfio'r rhwydwaith yng Nghymru oll wybodaeth am wirfoddoli yn eich ardal ynghyd â staff profiadol a all eich helpu i benderfynu beth i'w wneud.  Fe wnânt eich helpu i gael atebion i'r cwestiynau a fydd yn eich helpu i benderfynu ar y cyfle iawn, megis:

  • Pa fath o fudiad ydyw' Beth yw ei nodau a sut y caiff ei drefnu'. Faint o wirfoddolwyr eraill sy'n gweithio yno?
  • Beth yn union y bydd gofyn i mi ei wneud, a roddir hyfforddiant ac a delir fy nghostau?
  • Faint o amser a ddisgwylir gennyf ac am o leiaf faint o amser y byddant yn disgwyl i mi aros?
  • Beth y dylwn ni ei wneud nesaf?

    Bydd y canolfan gwirfoddolwyr yn helpu i gael apwyntiadau gyda'r mudiadau y cewch eich denu ganddynt ac ni wnânt roi'r gorau iddi nes y cewch rywbeth rydych yn ei wir hoffi. Byddant mewn cysylltiad o bryd i'w gilydd i weld sut mae pethau'n mynd ac maent ar gael i chi gysylltu â nhw os hoffech gael rhagor o gyngor am wirfoddoli.