2 Hyd 2010
Bute Park, Cardiff
Galeri, Caernarfon Medi 15, 2010
Fanylion yma - http://www
Mae Gofal Galaru Cruse yn elusen gofrestredig sy'n helpu ac yn cefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth
Help i Ffoaduriaid
Help i Ffoaduriaid
Cafodd Jenny Davies ei hysbrydoli, oherwydd sylw negyddol gan y cyfryngau, i fynd draw i'r Grwp Cefnogi Ffoaduriaid lleol i weld beth yn union oedd y sefyllfa. "Doeddwn i erioed wedi cyfarfod unrhyw ffoaduriaid, ar wahbn i deulu o blant o Fietnam a ddaeth i'n hysgol iau ni am gyfnod byr. Roeddwn eisiau deall mwy am yr hyn a oedd yn digwydd yn y wlad hon."
Darganfu Jenny, yn hytrach na'r 'ymfudwyr economaidd' y clywodd amdanynt, fod yn ffoadur yn golygu gadael eich cartref a'ch teulu a phopeth cyfarwydd a symud i fan lle mae pethau'n ddieithr ac yn ddychrynllyd iawn.
Mae hi'n awr yn treulio un noswaith yr wythnos yn helpu menyw ifanc o Serbia i ymarfer ei Saesneg, yn casglu a dosbarthu dillad, yn cynnal digwyddiadau codi arian ac yn rhoi help llaw cyffredinol.
"Nid oeddwn yn sylweddoli fod rhoi cwpl o oriau'r wythnos yn gallu gwneud gymaint o wahaniaeth I fywyd rhywun arall"