Rwyf wedi ystyried gwirfoddoli preswyl sawl tro – ffordd dda o helpu i warchod natur a gweld rhai o rannau prydferth y byd, ond wrth i mi gyrraedd Prosiect Gweilch Glaslyn, dechreuodd fy meddwl grwydro... Beth ydw i’n ei wneud yma, yn rhoi o’m gwyliau blynyddol gwerthfawr i wirfoddoli yn y glaw yng Ngogledd Cymru pan allwn i fod yn ymlacio yn yr haul a minnau wedi rhoi fy oriawr o’r neilltu am wythnos...
Cawsom ein cyflwyno i’r tîm (‘Felly gwyliau gwaith ydy hwn i chi de.’) a gwelais fod acronymau’n frith yma hefyd: ‘SDAP (Swyddog Dangos Adar i Bobl) ydw i ac rydym yn gweithio ar brosiect OAA (Onid yw Adar yn Anhygoel?) ac rydych chi’n GP (Gwirfoddolwyr Preswyl)’.
Dangoswyd ni o gwmpas y ganolfan ymwelwyr, yna aethpwyd â ni i’n carafán gyfforddus hanner ffordd i fyny mynydd gyda choetiroedd derw hyfryd o’n cwmpas. (Daeth teulu o sgrechod y coed i’n croesawu.)
Aethom yn ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr a chawsom wybod beth oedd ein tasgau am yr wythnos.
Does dim angen goruchwylio’r nyth am 24 awr erbyn hyn – dim ond er mwyn cadw’r casglwyr wyau draw y mae’n rhaid gwneud hyn – (diolch byth!! - dim shifftiau nos!!)
Roedd y gwaith yn cynnwys dangos safle’r nyth i ymwelwyr trwy delesgopau cryf iawn ac esbonio am y gweilch a’u hamgylchedd, a chofrestru aelodau’r RSPB.
Mae’r gweilch yn mudo o Affrica bob gwanwyn ac maent yn arwyddlun enwog cadwraeth yn yr Alban.
"Mae Gweilch Glaslyn wedi bod yn nythu yng Nghymru ers pum mlynedd bellach a hwy yw ein hunig bâr ac yn swyddogol ein rhywogaeth fridio fwyaf prin.
Yn 2004, chwythodd storm y nyth i lawr a oedd yn cynnwys dau gyw ifanc. Buont farw’n syth. Yn 2005, deorodd dau gyw gan adael y nyth ar ôl hynny, ond ni lwyddodd y trydydd wy i ddeor. Yn 2006 a 2007, deorodd tri chyw, ond bu farw un cyw yn y nyth yn y ddwy flynedd. Felly dyma weilch rhif saith, wyth a naw i gael eu magu’n llwyddiannus gan ein pâr yng Nglaslyn. Dyw hyn ddim yn rhy ddrwg mewn pum mlynedd ac mae ymhell uwchlaw’r gyfradd fridio yn y DU." (Emyr Evans RSPB)
Maen nhw’n rhieni gwych - mae Dad yn bysgotwr heb ei ail ac mae Mam yn bwydo’r cywion mor gywrain, gan dorri darnau bach o bysgod iddyn nhw.
O blith y 3 chyw eleni, hedfanodd 2 o’r nyth cyn i ni gyrraedd ac roedd pawb yn aros yn eiddgar i’r cyw olaf hedfan y nyth am y tro cyntaf!
O’r diwedd, gwelais fy Ngwalch Cymreig cyntaf erioed, gan sbïo drwy delesgop ar nyth eryr enfawr dros filltir i ffwrdd. Roeddwn yn gallu gweld yr adar yn y nyth a’r rhieni’n clwydo gerllaw. Roedd camerâu ar y nyth wedi’u cysylltu â’r ganolfan ymwelwyr ac roeddem felly’n gallu gweld y cywion yn agos. Y diwrnod wedyn, cawsom gyfle i weithio’r camerâu o’r safle gwarchod – llawer o hwyl gyda theclynnau! Roeddem hefyd wrth ein bodd o weld yr adar yn agos o guddfan tua 200m i ffwrdd o’r nyth – braint i staff a gwirfoddolwyr RSPB – arhosais yn y guddfan am dros awr yn braf!
Roedd y gwaith yn wych, er yn flinedig, ac roedd y boddhad o glywed ymwelwyr yn dweud "O, gwych!" wrth iddynt weld y gweilch trwy’r telesgop (yn aml iawn ar ôl treulio ychydig funudau’n ffocysu a minnau’n dweud pethau fel "mae’r nyth 3 coeden i’r chwith" neu "mae o dan y postyn na") yn gwneud y cyfan oll yn werth chweil. Gwelsom lawer o ymwelwyr yn dod yn ôl i weld – "a ydy hi wedi hedfan eto?"
Cawsom amser i fynd am dro i Ben Llŷn hyd yn oed.
O’r diwedd, ar fore dydd Gwener, am 10.42, magodd YE fel y’i gelwir (YC ac YD yw ei brodyr) y plwc i blymio o’r nyth, hedfan o gwmpas am ychydig a chlwydo ar gangen am yr awr ganlynol. Roedd hi’n edrych fel pe bai’n ceisio dyfalu sut yr oedd wedi llwyddo i gyrraedd yno!
YC (gwryw, dan ni’n meddwl) yn codi i’r awyr am y tro cyntaf
Y gobaith yw, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, y bydd mwy o weilch yn bridio yng Nghymru ac y byddwn yn gweld safleoedd nythod yn ymledu mwy i’r De. Cefais brofiad bythgofiadwy a chwrddais â llawer o bobl a bywyd gwyllt anhygoel. Rhoddwyd croeso mawr i ni gan wneud i ni deimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi. Byddwn yn argymell y cynllun hwn os gallwch roi rhywfaint o’ch amser i wneud rhywbeth sydd dipyn bach yn wahanol. Mae’n llawer iawn o hwyl ac yn arbennig o werth chweil.
Mae gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar nifer o leoliadau gwirfoddoli preswyl ar draws y DU. Os hoffech gael gwyliau go wahanol, cysylltwch â Rachel yn y Ganolfan Ymwelwyr i gael rhagor o wybodaeth. Mae gennym hefyd gysylltiadau â Chanolfan Gwlypdir RSPB yng Nghasnewydd os byddai’n well gennych gael rhywle’n nes at gartref.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.rspb.org.uk