2 Hyd 2010
Bute Park, Cardiff
Mae Gofal Galaru Cruse yn elusen gofrestredig sy'n helpu ac yn cefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth
Galeri, Caernarfon Medi 15, 2010
Fanylion yma - http://www
Gwaith Cymunedol:
St David's Foundation are looking for a voluntary Van drivers Assistant
Sharon Morris, 50
Mae gen i 2 blentyn sy'n oedolion bellach, wyres 11 oed ac rwy'n briod â Robert ers 31 mlynedd. Pan oeddwn yn yr ysgol roeddwn yn gweithio bob dydd Gwener ar ôl yr ysgol yn y siop trin gwallt leol yn golchi gwalltiau a mynd i nôl pethau i’r cwsmeriaid. Roeddwn yn cael mwy o arian yn gil dwrn ganddynt hwy nag yr oeddwn yn ei ennill yn gyflog. Roedd boreau Sadwrn yn brysur eithriadol oherwydd nos Sadwrn oedd y noson fawr yn y cymoedd i fwynhau ond oherwydd fy amgylchiadau teuluol roedd yn rhaid i mi gael swydd amser llawn os oeddwn am gael y pethau yr oeddwn eu heisiau.
Yn 16 oed, gadewais yr ysgol heb gymwysterau a hynny ar adeg pan oedd digon o waith yn y cymoedd. Es i weithio i’r Co-op lleol, a oedd yn cael ei ystyried yn arbennig bryd hynny. Gweithiais yno am ryw 5-6 mis ac wedyn soniodd fy ffrindiau am Ffatri Polikoffs a faint o arian yr oeddynt yn ei gael. Felly, be feddyliwch? Es i weithio yno. Dyna lle wnes i gyfarfod fy nghariad cyntaf a'i briodi 2 flynedd yn ddiweddarach. Mae llawer o bethau wedi digwydd yn y cyfamser ond gallwn dreulio oriau'n siarad am hynny.
Roeddwn yn gweithio gartref pan oedd y plant yn fabis, a hefyd yn gofalu am fy mam pan gafodd strôc ddrwg yn 52 oed. Rydw i wedi cael sawl swydd ac mae rhai pethau drwg iawn wedi digwydd yn fy mywyd sydd wedi rhoi syniad i mi am fywydau pobl eraill, ac felly gallaf gydymdeimlo â phobl â phroblemau - marwolaeth, cyffuriau, diod, salwch neu ddyled ac ati.
Ond roedd gen i wastad ddiddordeb mewn gofalu am bobl ac yn mwynhau gwrando ar eu profiadau mewn bywyd. Efallai nad ydw i wedi teithio ryw lawer yn bersonol ond gall llyfr fynd â chi i bob man a siarad â phobl sydd wedi bod yn llefydd hyn yw'r peth gorau wedyn.
Ond rydw i’n dod at y pwynt. Yn ôl ym Mehefin 2007, daeth taflen drwy’r drws, cymerais gip yn unig arni a'i thaflu i'r bin heb feddwl dim mwy amdani. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach roeddwn yn cerdded yn rhan uchaf Stryd Bute, Treherbert, pan welais boster 'Mae Radio Cwmni yma’.
Roedd gen i ddiddordeb mawr gan fy mod wedi mwynhau cerddoriaeth a dawnsio erioed, mae’r radio wastad ymlaen. Felly i mewn â fi a gofyn a allwn wirfoddoli. Doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i wneud unrhyw beth mewn gorsaf radio – llawer rhy glyfar a thechnolegol i mi, ond roedd y wraig y siaredais â hi’n wirioneddol gyfeillgar a hoffus. Rwy’n berson busneslyd ac roeddwn eisiau gwybod beth oedd yn digwydd yn y siop lle’r arferai'r siop trin gwallt fod lle roeddwn wedi gweithio’r holl flynyddoedd yn ôl. Dyna gyd-ddigwyddiad y byddai’r un lle yn golygu dechrau newydd i mi.
Llenwais ffurflen gais i wirfoddoli gan nodi fy niddordebau a’r oriau y gallwn weithio a’i rhoi iddynt. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai neb yn cysylltu gan nad oedd gen i brofiad o gyfrifiaduron na dim cymwysterau. Dywedodd fy merch Beth ‘rho’r gorau i roi dy hun i lawr, mae gennyt lawer i'w gynnig, fe gei di weld'. Roedd hi’n iawn. Es i’r gwaith y diwrnod wedyn ac ar ôl cyrraedd adref dywedodd fy ngwr fod Radio Cwmni wedi ffonio. Roeddwn mor gyffrous a nerfus fel y bu i mi redeg i fyny’r ffordd.
Sôn am fod yn or-gyffrous, allwn i ddim rhoi'r gorau i siarad. Felly pan gefais fy rhoi yng ngofal y ffonau, roedd yn wireddu breuddwyd. Roedd arna i ofn torri’r cyfrifiadur ac felly ni chyffyrddais ag ef ond dywedodd Julie, yr hyfforddwr ar gyfer Radio Cwmni ‘nad yw’n brathu ac ni fydd yn ffrwydro’.
Dangosodd Julie imi sut i deipio ac ymateb i negeseuon cyfarch a chwestiynau a anfonir i mewn. Ar ôl hynny, doedd dim stop arna’ i. Prynais gyfrifiadur a dechrau defnyddio google, e-bay ac e-bostio. Doeddwn i ddim yn deall beth oedd pwrpas popeth ar y cyfrifiadur, a dydw i byth yn gwybod ond rwy'n dysgu diolch i Radio Cwmni.
Fy ngwaith ar ddydd Mawrth a dydd Iau oedd ateb y ffonau, derbyn ceisiadau, cyfarfod â'r gwesteion sef beth yr oeddwn eisiau'i wneud erioed, cyfarfod â phobl ddiddorol. Yr hyfforddwyr oedd Andrew a Julie. Alla i ddim mo’u canmol ddigon am eu hamynedd a’r ffordd y dangoson nhw i mi sut oedd pethau'n cael eu gwneud ar orsaf radio go iawn.
Rhoesant yr hyder i mi i fynd ar ôl y pethau a oedd, yn fy marn i, y tu hwnt i’m cyrraedd yn fy oed. Dim ond y dechrau oedd y bobl yr oeddwn yn eu ffonio i ddod i siarad ar y radio. Dysgais hefyd am bobl eraill yn yr ardal a oedd mor dalentog ond na fyddai neb wedi clywed amdanynt tan i'r radio ddod i Dreherbert.
Erbyn hyn mae gen i swydd gyda’r radio cymunedol ac rwy'n cael fy nhalu am wneud rhywbeth sy’n fy nghael o’r gwely yn y bore ac nad wyf am ei weld yn dod i ben ar ddiwedd y dydd gan ei fod mor ddiddorol a buddiol. Does dim llawer ers i ni ddod i ben gyda Radio Rhys, Penrhys. Dyna fis da oedd hwnnw. Alla i ddim disgwyl i fynd yn ôl. Hefyd rwyf wedi cadw mewn cysylltiad â’r ffrindiau a wnes yno.
Rydym ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer Dapper FM ym Mhenywaun, Aberdâr. Rwyf wedi bod yn cysylltu â phobl i ddweud wrthynt am eu radio lleol Dapper FM a'r holl gyfleoedd sydd ganddynt ar stepen eu drws. Mae gweithio ar orsaf radio iawn a chael hyfforddiant gan bobl broffesiynol yn gyfle na ddylai neb ei golli. Os ydych chi’n mwynhau cyfarfod â phobl ac yn mwynhau cerddoriaeth o bob math ac yn gallu cyfrannu rhywfaint o'ch amser byddwch yn ennill sgiliau y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol.
Felly, beth faswn i’n ei wneud nawr ‘blaw am y radio? Gweithio mewn swydd galed a diflas heb unrhyw her, a disgwyl am y penwythnos. Gallwn ddarllen llyfrau ar ddiwedd y dydd am bobl a phethau diddorol. Nawr rwy’n eu cyfarfod.
Pam na fyddai Cymunedau @ Ei Gilydd wedi dod i Dreherbert yn gynt? Felly, os cewch gyfle i wirfoddoli, peidiwch â phetruso, ewch amdani. Beth sydd gennych i’w golli?