Mae Gofal Galaru Cruse yn elusen gofrestredig sy'n helpu ac yn cefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth
The European Commission has entrusted civil society organisations to run the competition to choose the official logo and slogan for the upcoming European Year of Volunteering 2011
Gyrru:
Rhondda Sea Cadets are recruiting for a minibus driver, to help transport the cadets to and from their Centre in Llwynypia, on Tuesday and Thursday evenings between 6pm-9
Pam gwirfoddoli?
Mae pobl yn gwirfoddoli ar wahanol adegau yn eu bywydau am wahanol resymau:
- efallai bod arnoch eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol neu grwp arbennig sydd wedi’ch helpu ar adeg anodd yn eich bywyd
- efallai eich bod yn teimlo’n unig a bod arnoch eisiau cwrdd â ffrindiau newydd
- efallai eich bod yn ddi-waith/yn edrych am gyfeiriad gyrfa newydd/wedi cael eich diswyddo a bod arnoch felly eisiau dysgu sgiliau newydd a chadw eich hun yn brysur
- efallai bod gennych brofiadau a sgiliau yr hoffech eu trosglwyddo i eraill.
Mae’n hyblyg – chi sy’n penderfynu faint rydych eisiau ei wneud a phryd, gan ystyried yr ymrwymiadau eraill sydd gennych yn eich bywyd.
Er na fyddwch yn cael eich talu, cewch eich gwobrwyo mewn ffyrdd eraill am wirfoddoli:
- magu hyder a hunan-barch
- cwrdd â phobl mewn amgylchiadau tebyg
- dysgu sgiliau y gellir eu trosglwyddo
- rhoi cynnig ar brofiadau newydd
- helpu eraill yn ogystal â’ch hun
- ac yn aml iawn, cael llawer o hwyl!
Mae llawer o gyfleoedd hyfforddi ar gael i chi fel gwirfoddolwr, ni ddylai effeithio ar eich budd-daliadau ac mae llawer o fudiadau gwirfoddol yn cynnig treuliau parod. Hefyd, mae’n creu argraff dda ar eich CV – mae llawer o gyflogwyr yn ystyried profiad gwirfoddoli yn ffafriol.