Mae’r Adran ‘Motive Power’ yn gweithredu fflyd o drenau stem a disel. Allan o’r trenau stem, mae dwy yn llosgi olew a’r gweddill yn llosgi glo. Mae’r graddau fel a ganlyn: Glanhawr, Dyn Tân (dan hyfforddiant), Dyn Tân, Gyrrwr (dan hyfforddiant), Gyrrwr.
Dylai ymgeiswyr fod yn ffit ac mewn iechyd da, bod yn barod i ymgymryd â gwaith caled o dan amodau anodd, a gweithio oriau hir. Dylai gyrrwr y trên fod o natur glên ac yn gallu cysylltu’n bositif â theithwyr.
Ar y gorau, mae’r swydd yn bywiogi person, ac yn wobrwyol iawn. Mae mynediad i’r graddau yn ddibynnol ar gyfweliad.
Rhennir y baich gwaith rhwng y drefn o gadw’r trenau sy’n gwasanaethu mewn cyflwr, a chynnal cynnydd atgyweiriadau. Nid oes unrhyw seibiant yn yr angen am weithwyr.
Mae natur y gwaith y gellir ei wneud yn dibynnu ar sgiliau’r gwirfoddolwyr sydd ar gael. O fewn ffiniau, rhoddir hyfforddiant i ddechreuwyr lle bo’n briodol. Dylai gwirfoddolwyr y gweithdy fod o natur glên ac yn gallu cyd-weithio ag eraill.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r gweithgareddau hyn, cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddoli.
Ym mhen deheuol safle Dinas mae gweithdy a sied. Mae offer peiriannol ac offer weldio yn y gweithdy. Mae dwy ffordd yn y sied, un gyda thwll ar gyfer gweithio oddi tanodd.
Times available for voluntary work