Codi gwirfoddoli i lefel newydd
Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yw is-gangen Cymru Cymorth i Ddioddefwyr. Yr ydym yn helpu dros 80,000 o bobl yng Nghymru i ymdopi â throseddau bob blwyddyn. Yr ydym wedi bod trwy gyfnod o newidiadau mawr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yr ydym wedi dwyn ynghyd ffederasiwn o 5 elusen Gymreig ac wedi dod yn rhan o elusen newydd, genedlaethol ar gyfer dioddefwyr a thystion yng Nghymru a Lloegr. Yr ydym hefyd yn trawsnewid ein gwasanaethau i ddarparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau, ac i dystion sy’n ateb gofynion yr 21ain ganrif.
Mae angen ymddiriedolwyr arnom i’n harwain trwy’r cyfnod pwysig hwn. Mae’r rhain yn rolau gwirfoddol sy’n gofyn am lefel uchel o sgiliau arwain. Yr ydym yn chwilio am bobl ymroddedig a medrus sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru ac sy’n meddu ar ddealltwriaeth dda o’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Yr ydym yn chwilio’n fwyaf arbennig am bobl gyda phrofiad o farchnata a chodi arian, a gwasanaethau Iechyd a Lles. Byddai’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg hefyd yn fantais.
Bydd eich ymrwymiad chi i ni’n cynnwys mynychu cyfarfodydd o’r bwrdd (5 y flwyddyn fel arfer) ynghyd â chyfarfodydd pwyllgor a digwyddiadau eraill, yng Nghymru yn bennaf, a chynorthwyo’n helusen i gyflawni ei hamcanion uchelgeisiol.
Bydd ein hymrwymiad ni i chi’n cynnwys eich symbylu a’ch cymell, a rhoi’r ymdeimlad o fodlonrwydd i chi a ddaw yn sgil goruchwylio elusen sy’n arwain y byd yn y gefnogaeth a ddarperir ganddi i ddioddefwyr a thystion. Byddwn, wrth gwrs, yn talu eich costau hefyd.
Am ragor o wybodaeth, a phecyn cais, cysylltwch â Jon Trew ar 029 20467542 neu e-bostiwch jon.trew@victimsupport.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5 Medi 2008