Hafan English Modd gyfeillgar i argraffyddion Mewngofnodi Cofrestru

1 Maw 2012 - 2 Hyd 2012
Whiteford
Mae Gofal Galaru Cruse yn elusen gofrestredig sy'n helpu ac yn cefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth
After many successful years as a project of St Donats Arts Centre, Beyond the Border Wales International Storytelling Festival has become an independent organisation
Do you have the skills, abilities and experience to be a Trustee of Vision Support? Vision Support currently has spaces on the Board of Governors for Trustees with a background in: ·         Third Sector Management ·         Charity Funding ·         Health Care ·         Social Care ·         Public Relations Vision Support particularly welcome applicants with a personal experience of a vision impairment
We are due to start our regular volunteering days once again, which will be once a week on Thursdays from 10am – 3pm starting on Thursday 26th January with habitat pile creation
Os ydych chi’n awyddus i recriwtio aelodau di-dâl neu ymddiriedolwyr di-dâl i’ch bwrdd, gallwch hysbysebu am ddim (os oes lle) gyda goodmoves , y gwasanaeth recriwtio amlgyfrwng ar gyfer y trydydd sector
ASH Wales is currently looking at recruiting new board members with an expertise in working with young people/youth work
If you live in Neath Port Talbot and are interested in issues affecting those over 50, would you like to be one of the voices of older people in the area? The Older Persons' Council is looking for enthusiastic and committed people who are in regular contact with older people in the community
Helpu pobl â syndrom Down i fyw bywydau llawn a gwerth chweil
Solas’s volunteer scheme is working to support economically inactive people in Newport and Monmouthshire to take steps back towards employment
Dydd Iau, Ionawr y 19eg 2012 – Gwaith ar lwybr Pen y Gwryd Dyma barhau â’n gwaith o gyfrannu at gynnal a chadw llwybrau’r Wyddfa
Bydd Gemau Olympaidd 2012 yn dechrau yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd ddeuddydd cyn y seremoni agoriadol, pan fydd y cyntaf o 11 o gemau pêl-droed Olympaidd yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd
Fair Trade Wales are looking for volunteers to make this Fairtrade Fortnight the best one yet! Fairtrade Fortnight 2012 takes place between 27th February and 13th March
The Learn with Grandma Concept of Inter-Generational Learning and Skills Exchange followed by an evening reception at the Pierhead Building, Cardiff Bay, Cardiff Sponsored by Rhodri Glyn Thomas AM and Peter Black AM To Launch www
A four day training course, induction, ongoing support, and out of pocket expenses are given to all of our volunteers
Volunteering with your local branch is a fantastic opportunity to get involved and make a difference
Mae Amgylchedd Cymru yn chwilio am gynrychiolwyr o’r sector preifat sydd â diddordeb mewn cynaliadwyedd neu sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, i fod yn aelod o’i banel grantiau
Digartrefedd a Thai:
The Wallich are looking for a volunteer for the following role:- Internal Design Volunteer - To help the charity to design the internal lay out of a shop we're opening in Llanelli We are opening a shop as a social enterprise in Llanelli next to one of our projects
Diogelwch Cymunedol:
Volunteer needed to attend twice-weekly meetings to work alongside locally based group of volunteers who pet dogs as air-scenting search dogs to aid Gwent Police in the search for missing persons
Gwaith Cymunedol:
Festival Markets take place four times a year (Harvest, Christmas, St Davids and Healthy eating in July) as part of the monthly local produce market which takes place on the second Saturday of each month in the Dairy Car Park, Oystermouth Square from 9

Cymdeithas Eryri - Diwrnod Gwaith

Dydd Iau, Ionawr y 19eg 2012 – Gwaith ar lwybr Pen y Gwryd
Dyma barhau â’n gwaith o gyfrannu at gynnal a chadw llwybrau’r Wyddfa. Byddwn yn gweithio ar rannau isaf llwybr hynod boblogaidd Pen y Gwryd gan ddefnyddio caib a rhaw i glirio’r sianeli draenio. Bydd warden o'r Parc ac arweinydd mynydd yn ein cynorthwyo. Bydd angen i ni gario’r offer i fyny’r llwybr.

Cyfarfod am 10:00yb y tu allan i ganolfan y warden ym maes parcio Pen-y-Pas sydd gyferbyn â’r hostel ieuenctid. Côd post - LL55 4NY. Cyfeirnod grid - SH 647 556.

Dewch â chinio, diod boeth, dillad glaw a digon o ddillad cynnes gyda chi, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo esgidiau cadarn (esgidiau â blaenau dur fyddai orau). Bydd offer a menig ar gael gennym ni. Byddwn yn gweithio mil o droedfeddi uwchlaw’r môr felly mi fydd hi’n oer ac yn aeafol iawn. Mae hi’n holl bwysig felly eich bod yn gwisgo digon o ddillad cynnes fel sgarff, het, côt a throwsus glaw ac yn dod â dillad sbâr efo chi.

Cofiwch ddod â chinio efo hi a diod boeth mewn fflasg. 

Dydd Mawrth, Ionawr y 24ain 2012 – Codi sied yn Llanberis
Gyda bod ein casgliad o offer yn prysur dyfu, rydym ni am brynu sied newydd i allu eu cadw i gyd. Mae DMM (cwmni gwerthu offer dringo a mynydda) wedi rhoi caniatâd i ni osod y sied yn eu hiard ddiogel ger Llanberis. Golyga hyn y byddwn ni’n nês at ein swyddfa yn y Caban nac ydym ni ar hyn o bryd.

Mae’r sied yn 10 troedfedd wrth 6 throedfedd, ond ar hyn o bryd mae hi mewn darnau. Mae angen ei gosod at ei gilydd felly, a gosod pethau fel bachau a silffoedd hefyd. Os ydi’r tywydd yn sych, byddwn yn rhoi côt o ddeunydd cadw pren arni yn ogystal.

Cyfarfod am 10:00yb y tu allan i’r byngalo gwyn gyda drws coch yn iard cwmni peirianneg DMM yn Llanberis. Côd post -  LL55 4EL. Cyfeirnod grid - SH 574 608. Mae’r ffatri ar ochr ogleddol yr A4086 o gyfeiriad Caernarfon. Mae DMM ar yr ochr chwith ar ôl yr arwyddion 40mya, gyferbyn â gwesty Gallt y Glyn.

Dewch â chinio, diod boeth, dillad glaw, digon o ddillad cynnes, esgidiau glaw neu esgidiau cadarn (esgidiau â blaenau dur fyddai orau). Byddwn yn darparu menig ac offer.

Cadarnhewch:
Os ydych chi’n bwriadu mynychu unrhyw un o’r diwrnodau gwaith, a fyddai’n bosib i chi gysylltu â’n swyddfa yn y Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, LL55 3NR drwy ffonio 01286 685498. Yn yr un modd, os hoffech chi wybod mwy am ddiwrnod gwaith neu gadarnhau eich bod am fynychu fe allwch chi hefyd e-bostiwch Mike Klymko, Cynorthwyydd Prosiect Cadwraeth Eryri, (mike@snowdonia-society.org.uk) Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â gweithgareddau grŵp neu weithgareddau cymunedol, e-bostiwch sarah@snowdoniasociety.org.uk