Hafan English Modd gyfeillgar i argraffyddion Mewngofnodi Cofrestru

Mae ymddiriedolwyr (a elwir hefyd yn aelodau pwyllgor rheoli, neu’n aelodau Bwrdd) yn hanfodol er mwyn cynnal mudiadau gwirfoddol
Walk the Walk is a small but determined charity that has always been committed to not only raising funds for breast cancer research and cancer care , but is also passionate about encouraging women and men to become fitter and healthier and is so doing taking more responsibility for their own wellbeing as a vital part of prevention
Mae Gofal Galaru Cruse yn elusen gofrestredig sy'n helpu ac yn cefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth
Anabledd a Iechyd:
The South Powys Branch hold monthly meetings in Talgarth on a Wednesday afternoon, and currently have a weekly Craft and exercise class on Friday mornings
Gwaith Cymunedol:
Cymmer Communities First are looking for a Volunteer Publicity Designer to support the team to design posters and leaflets for distribution within the community
Ymgyrchu a Lobio:
Rhoi cymorth ymarferol i Apêl Atal Nawr! ac i'r linell gymorth drwy godi ymwybyddiaeth; helpu i gychwyn pwyllgorau/grwpiau codi arian ar draws Gymru

Ymunwch â ni!

Mae ymddiriedolwyr (a elwir hefyd yn aelodau pwyllgor rheoli, neu’n aelodau Bwrdd) yn hanfodol er mwyn cynnal mudiadau gwirfoddol. Dyma’r bobl sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan fudiad gwirfoddol strategaeth glir, ei bod yn driw i’w weledigaeth wreiddiol, a’i bod yn cydymffurfio â’r holl reolau a dyletswyddau cyfreithiol sydd arni.

Mae dyletswydd Ymddiriedolwyr i ddarparu llywodraethu da yn dwyn nifer o gyfrifoldebau pwysig yn ei sgil. Gallech chi fod yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni rhai gorchwylion, tra gellir dirprwyo eraill i’r staff a gyflogwch. Fel ymddiriedolwr, byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am weithredoedd y staff a rhaid i chi fonitro sut y byddant yn cyflawni eu dyletswyddau. Dyma'n fras rai o gyfrifoldebau ymddiriedolwyr:

Bydd pobl o bob cefndir yn dod yn ymddiriedolwyr i fudiadau gwirfoddol, a chyda’i gilydd, byddant yn cyfrannu oriau mawr (yn ddi-dâl) a’u hegni i amrywiaeth eang o achosion da. Gall dod yn ymddiriedolwr ddwyn manteision mawr i unigolion hefyd, a hynny ar lefel bersonol ac ar ysgol gyrfa.

I gael gwybod rhagor am gyfleoedd i ymddiriedolwyr yn eich ardal, dewiswch ardal o’r rhestr ar ein hafan, yna dewiswch "ymddiriedolwyr" o'r rhestr gategorïau.

Cylchlythyr electronig yw Newyddion ymddiriedolwyr a ddosberthir bob mis. Os hoffech chi ei dderbyn, llenwch y ffurflen ar-lein syml drwy ddilyn y ddolen hon: www.wcva.org.uk/emembership .Yma fe allwch chi hefyd danysgrifio i e-gylchlythyron cyllid a gwirfoddoli WCVA.