Mae Gofal Galaru Cruse yn elusen gofrestredig sy'n helpu ac yn cefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth. O ganlyniad i gyllid diweddar gan WCVA, mae Ardal Caerdydd a'r Fro yn bwriadu recriwtio gwirfoddolwyr o'r cymunedau hynny a dangynrychiolir yn yr elusen ar hyn o bryd. Mae ganddynt ddiddordeb penodol mewn recriwtio o'r categorïau canlynol: Grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed a phobl ddi-waith. Maent yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer y Pwyllgor Rheoli, gan gynnwys trysorydd, gwirfoddolwyr cefnogaeth profedigaeth ac aelodau i helpu ar ein llinell cyfeirio. I gael gwybod mwy cysylltwch â Sue Lunn neu Clare Williams ar 029 2022 6300, e-bost i cardiff@cruse.org.uk neu ysgrifennu atynt yng Ngofal Galaru Cruse, Caerdydd a'r Fro, 43 Charles Street, Caerdydd CF10 2GB.