Croeso i Gwirfoddoli Cymru
Mae’r wefan hon wedi cael ei gwella er mwyn ei gwneud yn haws i chi ddod o hyd i’r cyfle gwirfoddoli at eich dant!
Cyflwynwyd map Google i roi gwell syniad i chi o’r hyn sydd ar gael yn yr ardal yr hoffech chi wirfoddoli ynddi – boed hynny’n agos at le’r ydych chi’n byw neu’n gweithio.
Gallwch gofrestru ar-lein erbyn hyn a golygu eich proffil eich hun pa bryd bynnag y byddwch chi’n dewis gwneud hynny.
Mae digonedd o gyfleoedd i ddewis ohonynt sy’n addas i bob oed a diddordeb. Dewiswch y botwm Chwilio am Gyfle isod i ddechau chwilio.
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth sydd o ddiddordeb i chi ar hyn o bryd, peidiwch â phoeni oherwydd byddwn yn ychwanegu cyfleoedd bob dydd. Cliciwch y ddolen ‘Methu â dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano’ ar ben y dudalen, llenwch ffurflen fer, a byddwn yn anfon e-bost atoch yn syth ar ôl dod o hyd i gyfle priodol.
Nifer o gyfleoedd cyfredol: 6062
Nifer o geisiadau yn ystod y 7 diwrnod diweddaf: 519